Capel Ebeneser, Rhydaman

Gweinidog

Y Parchg John Talfryn Jones

Gweinidog Anhrydeddus

Y Parchg John T. Young

Diaconiaid

Enid Pryce (Ysgrifennydd); Gareth Jones (Trysorydd); Ann Jewell (Is-drysorydd); Eurian Bowen;
John Davies; David Evans; Bryan Lloyd; Rhoslyn Matthias; Anita Roberts; Volander Williams.

Cyfeilyddion

Helen Jones: Anita Roberts; Einir Jones.

Cyfarfodydd y Sul

10.30am Cwrdd Pregethu, ynghyd ag Ysgol Sul i'r Plant a'r Bobl Ifanc yn y Festri am 10.45am.

Dethlir y Cymundeb ar y Sul cyntaf o'r Mis, am 10.30 y bore.


3.30pm (Rhwng Tachwedd a Sul y Pasg) Cwrdd Pregethu yn y Festri
.

22.1.12

Ionawr

Mae'r Flwyddyn Newydd wedi cychwyn gyda theimladau cymysg yn Ebeneser.

Yn gyntaf roedd ein Chw. Eurian Bowen yn ymddeol o'i gwaith a'i swydd fel Ysgrifennydd yr Eglwys ar ol agos i ddau ddegawd wrth y llyw. Y mae Eglwys Ebeneser a'i Gweinidog yn enwedig, yn ddyledus iawn iddi am ei holl waith ar hyd y blynyddoedd.

Y Chw. Emid Pryce sydd yn eu holynu yn y swydd, a dymunwn yn dda iddi.

Ar yr ail Sul daeth Bethesda, Tycroes a Phisga Penybanc ynghyd i Ebeneser, wrth i'r tair eglwys ynghyd gytnnal yr Oedfa Goffa Flynyddol. Yn yr oedfa ho fe fyddwn yn cofio'n hanwyliaid, nid yn unig yr aelodau a gollwyd gennym, ond ceraint ein haelodau, a'r cysylltiadau i gyd.
Roedd cefnogaeth aelodau'r tair eglwys yn gryf a theilwng.

Ail gychwynnodd yr Ysgol Sul yn y festri, gyda'r plant yn mwynhau'r hwyl a'r sbri a ddaw yn ystod yr awr hon. Mae aelodaeth ein Hysgol Sul wedi codi yn sylweddol, ac fe ymddengys fod pawb wrth eu bodd yn dod ynghyd. Diolch yn wir i Gillian ac Anita am eu gwaith mawr.

MARWOLAETH
Bu farw Mrs Doreen Evans, Heol Wallasey ddydd Gwener, Ionawr 20fed. Yr oedd yn 96 oed. Un ydoedd a fagwyd i fynd i Ebeneser ers ei dyddiau cynnar, a bu'n ffyddlon tu hwnt i'r holl gyfarfodydd, Sul ac wythnos tan rhyw dair blynedd yn ol. Bydd yn chwith iawn pasio heibio i'w chartref, lle'r oedd cfroeso twymgalon bob amser ar ei haelwyd. Ar adeg fel hon, cofiwn am ei theulu, ei neiaint a'i nith, yn eu galar a'u hiraeth.

0 ymateb::